Law and Cymraeg Proffesiynol LLB (Hons)

بريطانيا

ماذا سوف أتعلم؟

Mae datganoli Llywodraeth Cymru a chyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg wedi golygu bod y gallu i siarad a deall Cymraeg at lefel uchel a deallusol yn ddeniadol i gyflogwyr. Wrth i gyfreithiau Cymreig gynyddu, felly hefyd mae’r galw am gyfreithwyr sydd â’r gallu i drin a thrafod y gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg ac o fewn cyd-destun Cymreig.Bwriad y rhaglen hon yw paratoi myfyrwr ar gyfer y Gymru gyfoes a thu hwnt.Mae’r Gyfraith yn bwnc amrywiol sy’n esblygu o hyd wrth iddo ymateb i ddatblygiadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Mae’n rheoli pob agwedd o’n bywyd dyddiol, o anghydfodau rhwng cymdogion a gwarchod yr amgylchedd i faterion cyflogaeth a darpariaeth gofal iechyd. Mewn cymdeithas fodern, ddemocrataidd, mae’r gyfraith yn bodoli i sicrhau cyfiawnder. Mae’r elfen Cymraeg Proffesiynol yn cael ei ddysgu gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Ar y cwrs yma byddwch yn datblygu sgiliau sy’n ymwneud â defnyddio’r iaith Gymraeg yn hyderus mewn ystod eang o gyd-destunau proffesiynol ac o fewn y gweithle. Byddwch yn cael eich dysgu gan staff sydd â phrofiad helaeth mewn meysydd fel cyfieithu, ysgrifennu creadigol, astudio a hybu treftadaeth, golygu a chyhoeddi.**Pam astudio LLB Y Gyfraith / Cymraeg Professiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth?** Caiff y rhaglen hon ei haddysgu ar y cyd gan Adran y Gyfraith a Throseddeg a’r Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Yn ogystal â'r modiwlau cyfraith sylfaenol, sy'n cynnwys y rhai sydd eu hangen er mwyn dod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr (gan ennill 'Gradd Gymhwyso yn y Gyfraith'), rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau dewisol sy'n cwmpasu pynciau cyfreithiol traddodiadol a chyfoes. Gellir astudio nifer o fodiwlau’r Gyfraith a Throseddeg trwy gyfrwng y Gymraeg.Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn cynnig cyfleoedd eang i ddatblygu sgiliau cyfathrebu. Mae’r Gymdeithas Ymryson yn agored i holl fyfyrwyr yr adran ac mae’n rhoi cyfle i aelodau ddatblygu chystadleuaeth ffug lys barn.

في أي قسم أنا؟

Department of Law and Criminology

خيارات الدراسة

دوام كامل (3 أعوام )

رسوم التسجيــل
£18,170.00 (US$ 23,465) سنوياً
£18170 Per year

هذه رسوم ثابتة

* السعر الظاهر هو سعر توضيحي، يرجى تواصل مع الجامعة

تاريخ البدء

سبتمبر 2025

مكان عقــد الدورة

Main Site (Aberystwyth)

Penglais Campus,

Penglais Road,

Aberystwyth,

Ceredigion,

SY23 3DD, WALES, Wales

قد يكون هناك متطلبات أيلتس مختلفة بناء على التخصص المحدد.

أضف إلى المفضلة

حول Aberystwyth University

تعتبر أبيريستويث واحدة من أفضل الجامعات في المملكة المتحدة للطلاب الذين يتطلعون إلى تلقي تعليم عالمي المستوى قائم على الأبحاث بسعر مناسب.

  • مركز تميز لجودة بحوثها!
  • 2 من أفضل 3 جامعات في المملكة المتحدة من حيث جودة التدريس وتجر
  • أفضل جامعة في ويلز من حيث رضا الطلاب (NSS 2024)!
  • مجتمع ترحيبي مع دعم الطلاب الدوليين!

ابقَ على تواصل