Cardiff Business School Rheoli Busnes gyda’r Gymraeg دراسة Cardiff University في

Rheoli Busnes gyda’r Gymraeg

بريطانيا

1

ماذا سوف أتعلم؟

Mae’r cwrs BSc Rheoli Busnes a’r Gymraeg yn un arloesol a modern sy’n ceisio cyfuno prif elfennau gradd Rheoli Busnes ag astudio’r Gymraeg a diwylliant Cymru ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyfleoedd o fewn y farchnad lafur newidiol yng Nghymru. Bwriedir i’r cyfuniad hwn gwella amrywiaeth y cyfleoedd gwaith proffesiynol sydd ar gael i raddedigion wrth roi addysg amlddisgyblaethol ac eang ym meysydd Rheoli Busnes a’r Gymraeg, yn ogystal â chynnig opsiynau hyblyg i fyfyrwyr sydd am ddilyn pynciau gwahanol sy’n datblygu sgiliau iaith.Drwy astudio Rheoli Busnes, byddwch yn meithrin gwybodaeth drylwyr am y prif ddisgyblaethau sy’n berthnasol i reoli a busnes, ynghyd â gwerthfawrogiad o’r gwahanol feysydd swyddogaethol sy’n rhan o sefydliadau busnes. Felly, byddwch yn datblygu craidd cadarn o wybodaeth ym maes Rheoli Busnes a fydd yn eich galluogi i adeiladu ar sylfeini cryf i arbenigo mewn meysydd sy’n ennyn eich diddordeb ac yn adlewyrchu eich dyheadau o ran gyrfa. Drwy astudio’r Gymraeg, byddwch yn datblygu sgiliau lefel uchel yn yr iaith ei hun, yn ogystal â datblygu dealltwriaeth drylwyr o’i lle yn y Gymru gyfoes. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, cewch gyfle i ddatblygu arbenigedd drwy ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol. Mae'r rhain yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd sy’n arbennig o berthnasol i reoli a busnes, gan gynnwys cynllunio ieithyddol a pholisi iaith, cymdeithaseg iaith, sosioieithyddiaeth, technoleg iaith a chyfieithu proffesiynol, yn ogystal â phynciau llenyddol, ieithyddol a diwylliannol.Mae’r Ysgol Busnes yn darparu ar gyfer myfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa mewn busnes a rheoli, gan adlewyrchu ehangder ein harbenigedd ymchwil a datblygiadau cyfredol yn y byd busnes. Mae cyfres o gyrsiau ar gael i’w gwneud ym maes Rheoli Busnes, ac mae'r cynllun newydd hwn yn ychwanegu at ein portffolio ac yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr astudio'r Gymraeg ochr yn ochr â Rheoli Busnes.Mae Cymraeg yn ddisgyblaeth ddeinamig ac amrywiol, ac mae'r ystod eang o fodiwlau arbenigol a gynigir gan yr Ysgol yn adlewyrchu ei chyfoeth. Mae llawer o feysydd dan sylw wrth astudio’r Gymraeg sydd, yn naturiol, yn ategu astudio busnes a rheoli, fel cynllunio ieithyddol (yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector), polisi iaith a thechnoleg iaith.Agwedd werthfawr arall ar ddarpariaeth yr Ysgol ar gyfer israddedigion yw'r ffordd y mae modiwlau llenyddol, diwylliannol a chreadigol yn pwysleisio cyd-destun diwylliannol ehangach y Gymraeg. Mae modiwlau mewn ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth plant a threftadaeth a thwristiaeth, er enghraifft, yn cyfuno gwybodaeth am bwnc arbenigol, y cyd-destun diwylliannol a sgiliau perthnasol er mwyn cyfoethogi dealltwriaeth myfyrwyr o’r Gymraeg yn y Gymru gyfoes. Gallai modiwlau o'r fath fod yn arbennig o berthnasol i fyfyrwyr sydd o bosibl am ddatblygu gyrfa yn y diwydiant creadigol, y diwydiant cyhoeddi neu’r diwydiant treftadaeth, er enghraifft.Mae Ysgol y Gymraeg hefyd yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau llenyddol, diwylliannol a chreadigol i fyfyrwyr sydd o bosibl am ddatblygu gyrfa yn y diwydiant cyhoeddi neu’r diwydiant treftadaeth, er enghraifft.A hithau’n adnabyddus am ansawdd ac effaith ei hymchwil, mae darpariaeth yr Ysgol yn y Gymraeg ar gyfer israddedigion wedi’i chynllunio i fod yn berthnasol i’r Gymru gyfoes. Mae Ysgol y Gymraeg yn ceisio cynhyrchu graddedigion dwyieithog a galluog â dealltwriaeth drwyadl o'r iaith Gymraeg, ei diwylliant a'i lle mewn cymdeithas fodern.Bydd gan raddedigion y cwrs Rheoli Busnes a’r Gymraeg sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol da iawn, wedi’u cyfuno â chraffter busnes dwyieithog sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr yn y gweithle cystadleuol sydd ohoni.Bydd myfyrwyr sy’n gwneud y cwrs hwn yn gymwys i wneud cais am Ysgoloriaeth Cymhelliant o £500 y flwyddyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan y byddant yn astudio o leiaf 33% (40 o gredydau’r flwyddyn) o bwnc yr

في أي قسم أنا؟

Cardiff Business School

خيارات الدراسة

دوام كامل (3 أعوام )

رسوم التسجيــل
£24,700.00 (US$ 31,898) سنوياً
هذه رسوم ثابتة

* السعر الظاهر هو سعر توضيحي، يرجى تواصل مع الجامعة

تاريخ البدء

سبتمبر 2026

مكان عقــد الدورة

Main Site - Cardiff

Park Place,

Cardiff,

CF10 3AT, Wales, United Kingdom

دوام كامل (3 أعوام )

رسوم التسجيــل
£24,700.00 (US$ 31,898) سنوياً
Living cost -The minimum cost of living as recommended by UKVI for studying outside London is 1023 per month.

هذه رسوم ثابتة

* السعر الظاهر هو سعر توضيحي، يرجى تواصل مع الجامعة

تاريخ البدء

سبتمبر 2026

مكان عقــد الدورة

Cardiff University - Cathays Park Campus

Park Place,

Cardiff,

CF10 3AT, Wales, United Kingdom

قد يكون هناك متطلبات أيلتس مختلفة بناء على التخصص المحدد.

أضف إلى المفضلة

Product of

هل تعرّفت على مجتمع آي دي بي؟

استكشف تجارب الطلاب السابقين بنفسك، وشارك في المجموعات واستفد من مزايا المجتمع الجديدة!

تصفح المجتمع الآن!
cta banner image

حول Cardiff University

تُقدَم البرامج في جامعة كارديف على يد أكاديميين رواد، ويستفيد الطلاب من مرافق تعليمية متطورة ومتخصصة في الجامعة.

  • الجامعة الوحيدة من ويلز المنضمة لمجموعة راسل
  • ضمن أفضل 180 جامعة (حسب QS لعام 2027)
  • 5,000 طالب دولي
  • ضمان الحصول على سكن للطلاب الدوليين المؤهلين

ابقَ على تواصل