Mae'r radd gyffrous hon gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn eich hyfforddi fel athro cynradd wedi’ch cymhwyso’n arbennig i addysgu yng Nghymru ac mae'r un mor ddilys i'r rhai sydd eisiau dysgu yng ngweddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt*.Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o sut mae plant yn dysgu a'r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu i fod yn athro arloesol a chreadigol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc. Ym mhob blwyddyn o'r radd, fe'ch lleolir mewn ysgol arweiniol wahanol. Gan ychwanegu ehangder a dyfnder at eich profiad, mae hyn yn cynnwys ystod oedran a lleoliadau. Yn ystod y lleoliadau, byddwch yn cael eich cefnogi gan staff profiadol i ddysgu sut i gynllunio cynlluniau gwaith priodol ac ystyried strategaethau asesu ac adrodd.Wedi’ch lleoli yma yng Ngwynedd, sir ag un o’r niferoedd mwyaf o siaradwyr Cymraeg, byddwch yn ymuno â phrifysgol ddwyieithog groesawgar. Byddwch yn cymryd rhan mewn lleoliadau Cymraeg eu hiaith gydag ysgolion ar draws y rhanbarth.Mae gan Brifysgol Bangor enw da am addysg athrawon ers amser maith. Mae Partneriaeth CaBan yn sail i’ch addysg i ddod yn athro effeithiol. Mae’r bartneriaeth athrawon ddwyieithog, gynhwysol arloesol hon yn dibynnu ar ymarfer gorau a thystiolaeth i lywio eich datblygiad, addysgeg ac ymarfer.Mae gan ein hysgolion partner fentoriaid sydd wedi'u hyfforddi'n dda a fydd yn cefnogi'ch cynnydd tuag at ddod yn athrawon rhagorol ac arloesol. O'ch mentoriaid dosbarth a phwnc i fentoriaid arweiniol y rhwydwaith a'n staff ein hunain, byddwch yn cael eich annog ar bob cam i ddatblygu sgiliau o'r radd flaenaf. Mae’n gyfnod cyffrous i ddod yn athro yng Nghymru wrth i Addysg yng Nghymru gychwyn ar gyfnod newydd. Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i gynllunio i gefnogi pobl ifanc i ddatblygu safonau llythrennedd a rhifedd uwch, dod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, a bod yn ddinasyddion hyderus, galluog a thosturiol – yng nghyswllt Cymru a’r byd.*Dylai'r rhai sy'n dymuno dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod yno ac yn drosglwyddadwy.Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hon. Ar gyfer y cwrs cyfrwng Saesneg defnyddiwch god UCAS X131.