School of Welsh Cymraeg ac Iaith Fodern - BA (Hons) دراسة Cardiff University في

Cymraeg ac Iaith Fodern - BA (Hons)

بريطانيا

1

ماذا سوف أتعلم؟

Mae ein BA mewn Cymraeg ac Iaith Fodern yn eich helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu lefel uchel a sgiliau meddwl yn feirniadol, ac mae’n meithrin gwytnwch ac annibyniaeth drwy dreulio amser mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o'r Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant trwy ystod o fodiwlau ar bynciau megis ysgrifennu cyfoes a hanesyddol, polisi iaith a chyfieithu. Byddwch yn ennill lefel uchel o sgiliau mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn meddwl creadigol a beirniadol, ac ystod o sgiliau proffesiynol sy'n berthnasol i'r Gymru fodern. Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Bydd eich astudiaeth ac archwiliad o’r Gymraeg yn cael eu hategu gan eich dewis o un o dair iaith dramor fodern y byddwch yn ei hastudio naill ai ar y lefel Elfennol Uwch (os oes gennych Safon Uwch yn y pwnc) neu’r llwybr Elfennol (os oes gennych chi ychydig neu ddim gwybodaeth o'r iaith rydych chi wedi'i dewis). Byddwch chi'n dewis rhwng Tsieinëeg, Ffrangeg neu Sbaeneg.Byddwch yn astudio cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol, hanesyddol a diwylliannol, o bersbectif byd-eang, y Gymraeg a’r iaith dramor fodern o’ch dewis, gan roi pwyslais cryf ar amrywiaeth ddiwylliannol, mae ein dewis modiwlau ysgogol yn dathlu symudedd diwylliannol ac ieithyddol. Trwy amryw adnoddau a deunyddiau dysgu ieithoedd ynghyd â gweithgareddau dysgu i fyfyrwyr, byddwch chi’n meithrin eich sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad, gwrando a chyfryngu.Rhan gyffrous o’r rhaglen hon sy’n cyfoethogi yw’r cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yng Nghymru a threulio amser yn gweithio neu’n byw dramor i brofi bywyd yn niwylliant yr iaith dramor fodern yr ydych yn ei hastudio. Bydd eich lleoliad gwaith yng Nghymru yn datblygu eich dealltwriaeth o ddeinameg gweithleoedd dwyieithog a'ch hyder a'ch sgiliau proffesiynol. Tra bydd eich blwyddyn dramor yn cynnig y dewis i chi o naill ai astudio mewn prifysgol bartner neu gwblhau lleoliad gwaith ym mhob semester, eto adeiladu eich galluoedd ieithyddol, dealltwriaeth ryngddiwylliannol, sgiliau cyfathrebu a hyder.**Nodweddion Unigryw’r Rhaglen****Profiad deinamig**\Dysgwch gan siaradwyr brodorol ac unigolion sydd i bob pwrpas yn siaradwyr brodorol, gyda dysgu cyfunol a thechnolegau digidol yn rhan annatod o weithgareddau addysgu a dysgu.**Sgiliau ar gyfer y dyfodol**\Rhaglen sgiliau strwythuredig sy’n ymgorffori sgiliau academaidd, trosglwyddadwy a chyflogadwyedd o'r cychwyn.**Gweithgareddau allgyrsiol**\Bydd rhaglen fywiog yn eich helpu i ddysgu’r iaith a mwynhau ei diwylliant trwy ddosbarthiadau sgwrsio gyda myfyrwyr cyfnewid, caffis iaith a chymdeithasau iaith i fyfyrwyr.**Y byd yw'ch ystafell ddosbarth**\Treulio’ch trydedd flwyddyn yng ngwledydd yr iaith (ieithoedd) a ddewisoch chi.

في أي قسم أنا؟

School of Welsh

خيارات الدراسة

دوام كامل (4 أعوام )

رسوم التسجيــل
£25,450.00 (US$ 32,867) سنوياً
هذه رسوم ثابتة

* السعر الظاهر هو سعر توضيحي، يرجى تواصل مع الجامعة

تاريخ البدء

سبتمبر 2027

مكان عقــد الدورة

Main Site - Cardiff

Park Place,

Cardiff,

CF10 3AT, Wales, United Kingdom

قد يكون هناك متطلبات أيلتس مختلفة بناء على التخصص المحدد.

أضف إلى المفضلة

Product of

هل تعرّفت على مجتمع آي دي بي؟

استكشف تجارب الطلاب السابقين بنفسك، وشارك في المجموعات واستفد من مزايا المجتمع الجديدة!

تصفح المجتمع الآن!
cta banner image

حول Cardiff University

تُقدَم البرامج في جامعة كارديف على يد أكاديميين رواد، ويستفيد الطلاب من مرافق تعليمية متطورة ومتخصصة في الجامعة.

  • الجامعة الوحيدة من ويلز المنضمة لمجموعة راسل
  • ضمن أفضل 180 جامعة (حسب QS لعام 2027)
  • 5,000 طالب دولي
  • ضمان الحصول على سكن للطلاب الدوليين المؤهلين

ابقَ على تواصل