Welsh/Adran y Gymraeg Cymraeg / Cysylltiadau Rhyngwladol - BA دراسة Aberystwyth University في

Cymraeg / Cysylltiadau Rhyngwladol - BA

بريطانيا

ماذا سوف أتعلم؟

Wrth ddewis astudio’r radd gyfun BA Cymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n rhannu dy amser rhwng Adran y Gymraeg a’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol - dwy adran uchel iawn eu bri. Adran y Gymraeg yw’r adran hynaf a’r fwyaf o’i bath y byd. Mae’n gartref i gymuned frwdfrydig o fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth a’i lle yn y byd cyfoes. Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn arbenigwyr mewn meysydd amrywiol ac o ganlyniad byddi’n gallu dewis o blith amrywiaeth eang o bynciau sy’n dy ddiddori.Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn bwnc hollol ddeinamig. Mae’n adlewyrchu bywiogrwydd, egni a datblygiadau byd sy’n newid yn gyflym. Astudir elfen hon y cwrs yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, sef y ganolfan orau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer astudio cysylltiadau rhyngwladol. Mae’r adran hefyd yn gartref i Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol ac ymchwil gyffrous yn creu profiad unigryw ac eithriadol yma, a hynny mewn awyrgylch cyfeillgar. Ceir cyfle o bob math hefyd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu dy gyfle am yrfaoedd.Byth oddi ar sefydlu’r Coleg yn Aberystwyth yn 1872, bu Adran y Gymraeg yn cyfrannu’n loyw i ddysg a bywyd diwylliannol y genedl, ym meysydd llenyddiaeth a’r cyfryngau eraill, addysg, gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth. Bu nifer o ysgolheigion a llenorion mwyaf nodedig Cymru yn dysgu ac yn astudio yma.Mae’r adran yn cynnal safonau sy’n gyson uchel ac yn cyflwyno cyrsiau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg. Yn ystod dy gyfnod yn fyfyriwr gyda ni byddi’n cael dewis o amrywiaeth helaeth o fodiwlau sy’n cwmpasu ystod eang o ddiddordebau ac yn dod yn rhan naturiol o’r bwrlwm sy’n gysylltiedig â’r Adran. Cei dy ddysgu gan arbenigwyr sydd yn arloesi yn eu maes a byddi’n dilyn cwrs cyffrous a heriol. Mae cymuned glos a chyfeillgar iawn o fewn Adran y Gymraeg ac mae’r staff yn ymfalchïo yn eu perthynas â’i myfyrwyr.Mae elfen Cysylltiadau Rhyngwladol y radd yn ymwneud â grym a chyfiawnder, gwrthdaro a chydweithio. Byddi’n astudio cyflwr dynoliaeth a’r modd y mae cymdeithasau dynol yn ymwneud â’i gilydd ac yn delio â phob math o newidiadau byd-eang, yn economaidd, diwylliannol a gwleidyddol. Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn bwnc cyffrous a rhyngddisgyblaethol sy’n cynnwys Gwleidyddiaeth, Hanes, Athroniaeth, y Gyfraith, Daearyddiaeth a Chymdeithaseg er mwyn ceisio deall y byd o’n cwmpas a’r problemau sy’n ei wynebu. Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath. Mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol fwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd. Mae gan yr adran hanes hir o edrych ar y byd a gofyn cwestiynau sylfaenol am ystod o bynciau – materion megis rhyfel, cudd-wybodaeth a diogelwch, tlodi byd-eang, moeseg a newid hinsawdd sut y daeth y byd i fod fel ag y mae, a sut y mae hynny’n newid o hyd. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol a pheth o’r gwaith ymchwil mwyaf cyffrous yn y maes yn creu profiad unigryw ac eithriadol.Mae gennym fantais fawr arall yn Aberystwyth gan mai dyma gartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd yn llyfrgell hawlfraint. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau. Mae’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd hefyd wrth law. Trwy ddewis dod yma i Aberystwyth byddi hefyd yn dod yn ran o fwrlwm o ddarlithoedd cyhoeddus, lansiadau, perfformiadau a sgyrsiau sy’n digwydd yn gyson trwy’r flwyddyn yr yr Adran ei hun a’r tu hwnt.

في أي قسم أنا؟

Welsh/Adran y Gymraeg

خيارات الدراسة

دوام كامل (3 أعوام )

رسوم التسجيــل
£20,400.00 (US$ 26,345) سنوياً
هذه رسوم ثابتة
تاريخ البدء

سبتمبر 2027

مكان عقــد الدورة

Main Site (Aberystwyth)

Penglais Campus,

Penglais Road,

Aberystwyth,

Ceredigion,

SY23 3DD, Wales, United Kingdom

قد يكون هناك متطلبات أيلتس مختلفة بناء على التخصص المحدد.

أضف إلى المفضلة

Product of

هل تعرّفت على مجتمع آي دي بي؟

استكشف تجارب الطلاب السابقين بنفسك، وشارك في المجموعات واستفد من مزايا المجتمع الجديدة!

تصفح المجتمع الآن!
cta banner image

ابقَ على تواصل