School of Welsh Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol (Welsh with Creative Writing) - BA (Hons) دراسة Bangor University في

Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol (Welsh with Creative Writing) - BA (Hons)

بريطانيا

1

ماذا سوف أتعلم؟

Mae’r radd hon mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol wedi ei chynllunio i chi ddarganfod a datblygu eich creadigrwydd eich hun fel awdur. Gallwch ddatblygu eich ymarfer creadigol eich hun ym maes barddoniaeth, straeon byrion, y nofel a ffeithiol greadigol. Byddwch yn astudio modiwlau sy'n seiliedig ar ymarfer mewn barddoniaeth, ysgrifennu rhyddiaith, ysgrifennu sgriptiau a drama, a bydd eich sgiliau ieithyddol a chyflogadwyedd yn cael eu gwella ymhellach gan fodiwlau sy'n ymwneud â defnydd proffesiynol o'r Gymraeg. Byddwch yn archwilio cywreinrwydd a grym creadigol y Gymraeg ac yn astudio modiwlau academaidd mwy traddodiadol eu naws, a siwrnai a allai arwain at yrfa fel sgriptiwr, awdur, golygydd, neu lywodraeth leol, darlledu ac addysgu.Os ydych chi yn eich elfen yn darllen llenyddiaeth Gymraeg ac o ddifri ynglŷn â datblygu eich ysgrifennu eich hun, efallai mai BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw’r cwrs gradd ar eich cyfer chi! Bydd modiwlau amrywiol – rhai’n canolbwyntio ar feirdd o Aneirin hyd at Catrin Dafydd, nofelwyr o Daniel Owen hyd at Manon Steffan Ros, a dramodwyr o Saunders Lewis hyd at Aled Jones Williams - yn cyfoethogi eich profiad llenyddol ac yn bwydo eich creadigrwydd. A than arweiniad darlithwyr sy’n awduron profiadol, bydd cyfle i ddatblygu eich ysgrifennu creadigol chithau o fewn cyfres o fodiwlau arbenigol. Ym Mhrifysgol Bangor cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd mwyaf hynod y byd, ond bydd cyfleoedd hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn eich paratoi at yrfa lwyddiannus yn gweithio’n ddwyieithog. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dyfnder ac i feistroli gwahanol gyweiriau’r iaith. Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg? Sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol? O’r cyfnodau cynharaf hyd at y presennol, mae’r dewisiadau o ran modiwlau yn eang a’r cyfleoedd i ehangu eich gorwelion yn ddi-ben-draw. Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565.

في أي قسم أنا؟

School of Welsh

خيارات الدراسة

دوام كامل (3 أعوام )

رسوم التسجيــل
£18,000.00 (US$ 23,246) سنوياً
Accommodation -Rent for premium studios £8,580.71 (approx. £205 per week) International Experience Year or a Placement Year - 1350

هذه رسوم ثابتة

* السعر الظاهر هو سعر توضيحي، يرجى تواصل مع الجامعة

تاريخ البدء

سبتمبر 2026

مكان عقــد الدورة

Bangor University - Main Campus

Bangor Main campus,

Bangor,

Gwynedd,

LL57 2DG, Wales, United Kingdom

دوام كامل (3 أعوام )

رسوم التسجيــل
المعلومات غير متوفرة

تحقق من المؤسسة

تاريخ البدء

سبتمبر 2026

مكان عقــد الدورة

Main Site

Bangor University,

Bangor,

Gwynedd,

LL57 2DG, Wales, United Kingdom

قد يكون هناك متطلبات أيلتس مختلفة بناء على التخصص المحدد.

أضف إلى المفضلة

Product of

هل تعرّفت على مجتمع آي دي بي؟

استكشف تجارب الطلاب السابقين بنفسك، وشارك في المجموعات واستفد من مزايا المجتمع الجديدة!

تصفح المجتمع الآن!
cta banner image

حول Bangor University

يضمن طاقم التدريس ومرافق الجامعة الحديثة والمتخصصة حصول كافة الطلاب على تجربة دراسية مثيرة مخصصة

  • مجموعة واسعة من الخيارات الدراسية الممتازة!
  • مرافق شاملة مصممة لتخدم كل كلية وقسم!
  • شبكة دعم هائلة متاحة لكافة الطلاب!
  • موقع جغرافي خرافي بالقرب من العديد من المدن الرئيسية!

ابقَ على تواصل