Department of Welsh and Celtic Studies Cymraeg/Mathematics - BA (Hons) دراسة Aberystwyth University في

Cymraeg/Mathematics - BA (Hons)

بريطانيا

1

ماذا سوف أتعلم؟

Trwy ddewis astudio’r Gymraeg a Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch yn perthyn i ddwy adran sydd wedi’u hen sefydlu a chanddynt dros 100 mlynedd o brofiad o ymchwilio a dysgu’r ddau egwyddor ond sydd hefyd yn addysgu’n ddeinamig mewn modd sy’n procio’r meddwl. Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu ac ymchwilio i drysorau pellach ym myd Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a chanfod adnabyddiaeth a dadansoddiad o siapiau a phatrymau trwy gasglu a chyfrifo data, dyma’r radd i chi. Canfyddwch ddisgyblaeth sy’n cyfuno adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau trwy gasglu a chyfrifo data. Dysgir Mathemateg yn Aberystwyth ers 1872, felly mae gan yr adran dros 140 o flynyddoedd o ragoriaeth dysgu, ac yn cyflogi darlithwyr sy’n addysgwyr ymroddedig ac yn ymchwilwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Bydd gradd mewn Mathemateg yn agor ystod eang o lwybrau gyrfa i chi, ac mae’r radd hon wedi’i hachredu gan y **Sefydliad Mathemateg a’i Chymwysiadau (IMA),** sef prif gymdeithas ddysgedig a phroffesiynol y DU ar gyfer mathemateg, a fydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at gael eich cydnabod yn Fathemategydd Siartredig. Mae amrywiaeth hynod ddiddorol o cyrsiau unigol ar gael yn yr Adran, sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, llenyddiaeth plant, llên gwerin, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg.Iaith Gyntaf ac Ail Iaith: mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys llwybrau Ail Iaith ac Iaith Gyntaf. Mae’r Adran yn cynnig nifer o fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg.Y Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drwys y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.Adran sy’n Agorau Drysau: Mae llu o bosibiliadau ar gael ar ôl graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth.Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus:Yn Aberystwyth gallwch fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma. Ymaelodwch ag UMCA, dewch i fyw yn neuadd Pantycelyn-Penbryn, ewch ar deithiau rygbi, ymunwch â chôr Pantycelyn, ac ewch i nosweithiau megis Gwobrau'r Selar. **Wrth gwblhau’r radd hon, byddwch wedi ennill y sgiliau isod:**+ Sgiliau ymchwilio a dadansoddi data+ Sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol uwch+ Sgiliau datrys-problemau a meddwl creadigol effeithiol+ Sylfaen drylwyr mewn technoleg gwybodaeth+ Gallu i weithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm+ Sgiliau Rheoli amser a threfnu+ Gallu i gyfathrebu’n eglur yn ysgrifenedig ac ar lafar+ Cymell eich hun a dibynnu arnoch eich hun. **Mae ein graddedigion wedi cael swyddi yn y sectorau isod:**+ Dadansoddi ystadegol ac ystadegaeth gyfrifiadurol+ Dysgu+ Peirianneg Awyrenegol+ Cyfrifeg a bancio+ Dadansoddi Risg a gwaith actwaraidd+ Rheolaeth ariannol a dadansoddi buddsoddiadau+ Technoleg gwybodaeth.

في أي قسم أنا؟

Department of Welsh and Celtic Studies

خيارات الدراسة

دوام كامل (3 أعوام )

رسوم التسجيــل
£19,190.00 (US$ 24,783) سنوياً
هذه رسوم ثابتة
تاريخ البدء

سبتمبر 2026

مكان عقــد الدورة

Main Site (Aberystwyth)

Aberystwyth University, Reception, Penglais,

Penglais Road,

Aberystwyth,

Ceredigion,

SY23 3FL, Wales, United Kingdom

دوام كامل (3 أعوام )

رسوم التسجيــل
£20,400.00 (US$ 26,345) سنوياً
هذه رسوم ثابتة
تاريخ البدء

سبتمبر 2027

مكان عقــد الدورة

Main Site (Aberystwyth)

Aberystwyth University, Reception, Penglais,

Penglais Road,

Aberystwyth,

Ceredigion,

SY23 3FL, Wales, United Kingdom

قد يكون هناك متطلبات أيلتس مختلفة بناء على التخصص المحدد.

أضف إلى المفضلة

Product of

هل تعرّفت على مجتمع آي دي بي؟

استكشف تجارب الطلاب السابقين بنفسك، وشارك في المجموعات واستفد من مزايا المجتمع الجديدة!

تصفح المجتمع الآن!
cta banner image

ابقَ على تواصل