Teacher Education Dylunio a Thechnoleg (TAR Uwchradd - Graddedigion yn unig) دراسة University of Wales Trinity Saint David في

Dylunio a Thechnoleg (TAR Uwchradd - Graddedigion yn unig)

بريطانيا

1

ماذا سوف أتعلم؟

Paratowch am yrfa ddeinamig a boddhaus gyda’n cwrs TAR Uwchradd Dylunio a Thechnoleg. Yn rhan o’n rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), mae’r cwrs hwn yn rhoi i chi’r sgiliau a’r arbenigedd sydd eu hangen i ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr, peirianwyr ac arloeswyr. Byddwch yn datblygu’r gallu i addysgu agweddau craidd Dylunio a Thechnoleg, gan gynnwys dylunio cynnyrch, defnyddiau gwrthiannol, systemau a rheolaeth, a thechnoleg bwyd. Mae’r cwrs yn cyfuno dysgu yn y brifysgol â phrofiad ymarferol, gan sicrhau eich bod yn ennill y wybodaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau addysgu ymarferol sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant yn yr ystafell ddosbarth. Bydd lleoliadau mewn ystod o ysgolion, gan gynnwys lleoliadau trefol, gwledig a chyfrwng Cymraeg, yn darparu profiad gwerthfawr o’r ystafell ddosbarth. Bydd y lleoliadau hyn yn eich helpu i fireinio’ch strategaethau addysgu, deall sut i addasu gwersi ar gyfer dysgwyr gwahanol, a datblygu hyder wrth gyflwyno gwersi diddorol a chynhwysol. Mae’r rhaglen hefyd yn pwysleisio sgiliau addysgu hanfodol, megis rheoli dosbarth, cynllunio’r cwricwlwm a dulliau asesu effeithiol. Drwy gydol eich lleoliadau ysgol, byddwch yn derbyn cymorth mentora a phroffesiynol, gan ganiatáu i chi ddatblygu dull addysgu sy’n adfyfyriol a seiliedig ar ymchwil. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn barod i ysbrydoli eich myfyrwyr i ddangos creadigrwydd a datrys problemau, gan roi iddynt y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer dyfodol wedi’i siapio gan dechnoleg a dylunio. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi Dylunio a Thechnoleg yn bwnc blaenoriaeth uchel, ac mae bwrsariaethau o hyd at £15,000 ar gael i gefnogi eich hyfforddiant. Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2024 i 2025 LLYW.CYMRU

في أي قسم أنا؟

Teacher Education

خيارات الدراسة

دوام كامل (1 عام )

رسوم التسجيــل
£15,600.00 (US$ 20,146) سنوياً
هذه رسوم مؤقتة قيد القبول
تاريخ البدء

سبتمبر 2026

مكان عقــد الدورة

SA1 Waterfront Campus, Swansea

UWTSD,

Kings Road,

Swansea,

SA1 8AL, Wales, United Kingdom

قد يكون هناك متطلبات أيلتس مختلفة بناء على التخصص المحدد.

أضف إلى المفضلة

Product of

هل تعرّفت على مجتمع آي دي بي؟

استكشف تجارب الطلاب السابقين بنفسك، وشارك في المجموعات واستفد من مزايا المجتمع الجديدة!

تصفح المجتمع الآن!
cta banner image

ابقَ على تواصل