Cardiff Business School Rheoli Busnes gyda’r Gymraeg - BSc (Hons) دراسة Cardiff University في

Rheoli Busnes gyda’r Gymraeg - BSc (Hons)

بريطانيا

1

ماذا سوف أتعلم؟

Ar ein rhaglen (BSc) Rheoli Busnes gyda’r Gymraeg, byddwch yn archwilio'r ffyrdd amrywiol y mae sefydliadau'n ymateb i ofynion busnes cyfoes sy'n newid yn gyflym. Mae ein pwyslais ar reoli cynaliadwy, ynghyd â'r egwyddorion busnes craidd sy'n bwysig i ddiwydiant byd-eang, yn golygu y byddwch wedi'ch paratoi'n dda i arwain sefydliadau'n llwyddiannus mewn byd sy'n fwyfwy cymhleth, digidol, a chydgysylltiedig. Wrth astudio’r Gymraeg byddwch yn meithrin sgiliau Cymraeg lefel uchel, ynghyd â dealltwriaeth drylwyr o’i lle yn y Gymru gyfoes.  Yn ogystal â sgiliau allweddol o ran rheoli, cyfrifyddu a marchnata, byddwch hefyd yn magu’r sgiliau gwneud penderfyniadau amhrisiadwy y mae eu hangen ar gyfer arfarnu, datblygu, gweithredu a gwerthuso gweithrediadau effeithiol. Byddwch yn meithrin y feddylfryd entrepreneuraidd sy’n ofynnol i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac amgylcheddol, yn ogystal â sgiliau a galluoedd personol proffesiynol hanfodol. Drwy ein partneriaethau â’r diwydiant, byddwch chi’n gallu ymgysylltu â heriau busnes yn y byd go iawn, gweithgareddau a arweinir gan gyflogwyr a phrosiectau cymhwysol i gysylltu eich dysgu ag arferion cyfredol y diwydiant. Drwy fodiwlau dewisol, byddwch yn teilwra'ch gradd i'ch diddordeb unigol a'ch uchelgais gyrfa. Mae yna gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith diwydiannol ac astudio dramor i gefnogi eich datblygiad personol a phroffesiynol. Byddwch yn graddio o'r rhaglen yn barod i ffynnu ym myd busnes, gyda'r sgiliau y mae arnoch eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth hyderus a strategol i sicrhau llwyddiant cynaliadwy. Byddwch hefyd wedi'ch paratoi'n dda ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig. **Nodweddion unigryw’r rhaglen** **Ein harbenigwyr ni, eich athrawon chi** \Dysgwch gan gyfadran o academyddion o'r radd flaenaf yn ein hysgol fywiog a chynhwysol **Canolbwyntio ar gyflogadwyedd** \Datblygwch sgiliau parod ar gyfer gyrfa mewn rheoli, marchnata a chadwyni cyflenwi drwy ddysgu ymarferol. **Yn gysylltiedig â diwydiant** \Manteisiwch ar brofiadau o’r byd go iawn drwy ddarlithoedd gan arbenigwyr yn y diwydiant, lleoliadau gwaith, a chyfleoedd astudio byd-eang. **Cyfrifol, moesegol, a chynaliadwy** \Datblygwch eich meddylfryd moesegol a'ch ymwybyddiaeth o gyfrifoldeb cymdeithasol yn barod i ddod yn arweinydd busnes. **Cyfuniad unigryw o fusnes a’r Gymraeg** Dewch i wella eich dealltwriaeth o'r Gymraeg a diwylliant Cymru yng nghyd-destun rheoli busnes.

في أي قسم أنا؟

Cardiff Business School

خيارات الدراسة

دوام كامل (3 أعوام )

رسوم التسجيــل
£25,450.00 (US$ 32,867) سنوياً
هذه رسوم ثابتة

* السعر الظاهر هو سعر توضيحي، يرجى تواصل مع الجامعة

تاريخ البدء

سبتمبر 2027

مكان عقــد الدورة

Main Site - Cardiff

Park Place,

Cardiff,

CF10 3AT, Wales, United Kingdom

قد يكون هناك متطلبات أيلتس مختلفة بناء على التخصص المحدد.

أضف إلى المفضلة

Product of

هل تعرّفت على مجتمع آي دي بي؟

استكشف تجارب الطلاب السابقين بنفسك، وشارك في المجموعات واستفد من مزايا المجتمع الجديدة!

تصفح المجتمع الآن!
cta banner image

حول Cardiff University

تُقدَم البرامج في جامعة كارديف على يد أكاديميين رواد، ويستفيد الطلاب من مرافق تعليمية متطورة ومتخصصة في الجامعة.

  • الجامعة الوحيدة من ويلز المنضمة لمجموعة راسل
  • ضمن أفضل 180 جامعة (حسب QS لعام 2027)
  • 5,000 طالب دولي
  • ضمان الحصول على سكن للطلاب الدوليين المؤهلين

ابقَ على تواصل