School of Law and Politics Y Gyfraith a'r Gymraeg - LLB (Hons) دراسة Cardiff University في

Y Gyfraith a'r Gymraeg - LLB (Hons)

بريطانيا

ماذا سوف أتعلم؟

Mae rhaglen LLB y Gyfraith a'r Gymraeg yn heriol ac yn gyffrous ac yn rhoi cyfle ichi feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y gyfraith neu amrywiaeth eang o broffesiynau. Caiff y rhaglen ei haddysgu ar y cyd gan gydweithwyr sy'n arbenigo yn y gyfraith a’r Gymraeg, felly cewch gyfle i astudio'r ddau bwnc yn fanwl.Rydym wedi cynllunio’r rhaglen i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r ffordd mae’r system gyfreithiol wedi’i lleoli o fewn cyd-destun cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol cyfnewidiol a sut mae’r gyfraith yn cael ei harwain gan y cyd-destun hwnnw. Mae datganoli a gofynion dwyieithog cyfraith Cymru ym mywyd cyhoeddus Cymru yn golygu bod cyflogwyr yn gwerthfawrogi sgiliau cyfathrebu Cymraeg uwch a chymhwysedd diwylliannol. Drwy gyfuno'r Gymraeg â'r gyfraith, byddwch yn ennill sgiliau meddwl creadigol a beirniadol allweddol, ac yn elwa ar ymchwil sy'n berthnasol yn gymdeithasol ac sy'n cyfrannu at ddatblygiad y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain.Yn ogystal â datblygu eich sgiliau academaidd, ac adeiladu eich gwybodaeth drwy ein modiwlau amrywiol, rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a rhoi eich sgiliau ar waith. Mae ein cynlluniau pro bono yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau, a sefydliadau gwirfoddol, gan helpu aelodau o'r gymuned gyda materion cyfreithiol, yn rhad ac am ddim. Trwy'r cynlluniau hyn, a thrwy weithio ar achosion go iawn, byddwch yn datblygu sgiliau mewn gofal cleientiaid, ymchwil gyfreithiol, ysgrifennu a siarad cyhoeddus, a chyfathrebu o bob math.Gyda golwg ar eich dilyniant yn y gyfraith, mae ein rhaglen yn cynnig y pynciau craidd sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau’r Bar ar gyfer bargyfreithwyr yn y dyfodol ac sydd hefyd yn sylfaen i ymarfer fel cyfreithiwr. Byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch, tra bydd modiwlau dewisol yn eich galluogi i ddatblygu diddordebau arbenigol neu archwilio pynciau cyfreithiol amrywiol.**Nodweddion Unigryw’r Rhaglen****Arbenigwr a pharchus**Fe’n cydnabyddir am ein harbenigedd ym maes astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol.**Newid bywydau**Ein Prosiect Dieuogrwydd a arweinir gan staff a myfyrwyr yw’r unig brosiect yn y DU sydd wedi arwain at 2 euogfarn yn cael eu gwrthdroi yn y Llys Apêl.**Cysylltiedig**Byddwch yn elwa ar ein cysylltiadau agos â Llywodraeth Cymru, cwmnïau cyfreithiol y ddinas, y llysoedd a chanolfannau cynghori.**Arobryn**Mae ein Huned Pro Bono wedi ennill nifer o wobrau ac yn darparu profiad gwaith hanfodol.**Cymuned lewyrchus**Gwnewch gysylltiadau drwy Undeb Myfyrwyr Cymru, neuaddau preswyl Cymraeg a'r Academi Gymraeg.

في أي قسم أنا؟

School of Law and Politics

خيارات الدراسة

دوام كامل (3 أعوام )

رسوم التسجيــل
£25,450.00 (US$ 32,867) سنوياً
هذه رسوم ثابتة

* السعر الظاهر هو سعر توضيحي، يرجى تواصل مع الجامعة

تاريخ البدء

سبتمبر 2027

مكان عقــد الدورة

Main Site - Cardiff

Park Place,

Cardiff,

CF10 3AT, Wales, United Kingdom

قد يكون هناك متطلبات أيلتس مختلفة بناء على التخصص المحدد.

أضف إلى المفضلة

Product of

هل تعرّفت على مجتمع آي دي بي؟

استكشف تجارب الطلاب السابقين بنفسك، وشارك في المجموعات واستفد من مزايا المجتمع الجديدة!

تصفح المجتمع الآن!
cta banner image

حول Cardiff University

تُقدَم البرامج في جامعة كارديف على يد أكاديميين رواد، ويستفيد الطلاب من مرافق تعليمية متطورة ومتخصصة في الجامعة.

  • الجامعة الوحيدة من ويلز المنضمة لمجموعة راسل
  • ضمن أفضل 180 جامعة (حسب QS لعام 2027)
  • 5,000 طالب دولي
  • ضمان الحصول على سكن للطلاب الدوليين المؤهلين

ابقَ على تواصل